Senedd Cymru | Welsh Parliament 
 Ymchwil y Senedd | Senedd Research 
 P-06-1566: Rhaid i Lywodraeth Cymru ddeddfu i sicrhau bod Gwarchodfeydd Natur Lleol, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Leol Cosmeston, yn cael ystyriaeth lawn 
 Y Pwyllgor Deisebau | 26 Ionawr 2026
 Petitions Committee | 26 January 2026
 Cyfeirnod: SR25/12887-3
Cyflwyniad

Rhif y Ddeiseb:P-06-1566

Teitl y ddeiseb: Rhaid i Lywodraeth Cymru ddeddfu i sicrhau bod Gwarchodfeydd Natur Lleol, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Leol Cosmeston, yn cael ystyriaeth lawn

Geiriad y ddeiseb: Er gwaethaf eu dynodiad statudol, prin iawn yw’r gydnabyddiaeth y mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn ei chael yng nghynlluniau adfer natur a fframwaith bioamrywiaeth Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru rymuso gyfeillion Gwarchodfeydd Natur Lleol a grwpiau bywyd gwyllt drwy atgyfnerthu dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus i'w hystyried yn narpariaethau Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Mae rhannau o Warchodfa Natur Leol Cosmeston yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ond nid oes rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru na'r Cyngor adolygu nodweddion dynodedig, diweddaru dynodiadau, na chynhyrchu cynllun rheoli.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn amddiffyn rhywogaethau, cynefinoedd a safleoedd nythu mewn Gwarchodfeydd Natur Lleol. Nod Cyngor Bro Morgannwg yw gwneud elw o Warchodfa Natur Leol Cosmeston trwy weithgareddau parc dŵr masnachol sy'n gwrthdaro â dibenion gwarchod natur a mwynhad y cyhoedd. Drwy beidio ag asesu'r effeithiau posibl ar fywyd gwyllt a chynefinoedd wrth wahodd cynigion ar gyfer gweithgareddau hamdden ar y dŵr yn 2021 ac Aquapark eleni, ynddengys i’r cyngor dorri ei ddyletswydd mewn perthynas â Gwarchodfa Natur Leol. Mae dyletswyddau cyffredinol ar gyfer bioamrywiaeth a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac ar gyfer adfer natur (NRAP 2015) yn ddiddannedd. Mae Deddf 1981 yn cynnwys dyletswydd i atal gweithgareddau sy'n tarfu ar gynefinoedd dynodedig llygod y dŵr a thelorion Cetti. Pan ddechreuodd telorion Cetti nythu ger y parc dŵr, anwybyddodd y cyngor y 'llain glustogi' ofynnol. Dylai'r Bil newydd gynnwys proses wedi'i diffinio'n glir i’r cyhoedd gael herio cyrff swyddogol wrth i’r rheini lunio cynlluniau rheoli, cyflwyno cynigion am gyllid, ac asesu datblygiadau mewn Gwarchodfeydd Natur Lleol o dan gyfraith gynllunio.

Mae'r testun a ddarperir uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd. Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio.

The text provided above is submitted by the petitioner. The petitions team make every effort to ensure it preserves their authentic voice. This text has not been verified for accuracy, or errors, and may contain unverified opinions or assertions.

 


 

1. Y cefndir

Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn ddynodiadau a wneir gan awdurdodau lleol o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, ac awdurdodau lleol, yn bennaf, sy’n gyfrifol am eu rheoli a'u diogelu. Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu dynodi yn sgil nodweddion naturiol sydd o ddiddordeb arbennig i'r ardal leol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrifbod oddeutu 100 o Warchodfeydd Natur Lleol yng Nghymru. Gellir gweld eu dosbarthiad ar MapDataCymru.

2. Camau gan Lywodraeth Cymru

2.1. Polisi cynllunio

O ran y system gynllunio, mae Llywodraeth Cymru yn categoreiddio Gwarchodfeydd Natur Lleol fel dynodiadau natur “anstatudol”. Mae hyn yn golygu eu bod yn destun dull gweithredu gwahanol o ran polisi cynllunio, o'i gymharu â dynodiadau "statudol" (gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig), sy’n destun mwy o amddiffyniadau.

Sgrinlun o ddogfen  Gall cynnwys a gynhyrchir gan AI fod yn anghywir.

Ffynhonnell: Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 12, Ffigur 13, tudalen 154).

Mae Polisi Cynllunio Cymru (PPW) (adran 6.4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio ddilyn “dull fesul cam” o gynnal a gwella bioamrywiaeth, meithrin rhwydweithiau ecolegol cydnerth a darparu manteision net i fioamrywiaeth, drwy sicrhau bod unrhyw effeithiau andwyol ar yr amgylchedd yn cael eu hosgoi yn y lle cyntaf, yna eu lleihau a’u lliniaru, ac fel ateb olaf, eu digolledu. Gellir ystyried datblygiadau mewn dynodiadau anstatudol, er enghraifft Gwarchodfeydd Natur Lleol, yn amodol ar ddilyn y dull gweithredu hwn.

Mewn cyferbyniad, mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod rhaid osgoi cynigion datblygu o fewn safleoedd dynodedig statudol yn gyfan gwbl, yn unol â cham cyntaf y dull fesul cam.

Mae'n nodi:

Er nad oes proses statudol i warchod dynodiadau anstatudol … dylai cynlluniau datblygu a’r broses rheoli datblygu eu hamddiffyn.

Cyn awdurdodi datblygiad sy’n debygol o ddifrodi dynodiad natur lleol, dylai awdurdodau cynllunio roi hysbysiad o’r bwriad i gynnal y gwaith i ecolegydd yr awdurdod lleol neu i fudiad amgylcheddol y trydydd sector.  Ym mhob achos rhaid cael barn ysgrifenedig ecolegydd yr awdurdod lleol.

Bwriad Nodyn Cyngor Technegol 5 (TAN 5), sy’n ymwneud â chynllunio a chadwraeth natur, yw amddiffyn nodweddion Gwarchodfa Natur Leol drwy eu cynnwys fel ystyriaeth berthnasol mewn penderfyniadau cynllunio (adran 5.5.1). Mae'n ofynnol i ddatblygwyr osgoi niwed i nodweddion y safleoedd hyn lle bo modd.

2.2. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Mae'r ddeiseb yn nodi bod Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o fewn y Warchodfa Natur Leol. Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu cydnabod am eu bywyd gwyllt a'u nodweddion naturiol pwysig (sy'n cwmpasu’r tir, y môr a dŵr croyw), ac maent yn cael eu gwarchod o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ddynodi safleoedd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rheoli Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn uniongyrchol ar y tir y mae'n gyfrifol amdano, ac yn rhoi cyngor i dirfeddianwyr/meddianwyr eraill ar safleoedd nad yw'n eu rheoli'n uniongyrchol. Fel y nodir uchod, mae gan Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig rai amddiffyniadau yng nghyd-destun polisi cynllunio.

Yn ôl asesiad gwaelodlin a gynhaliwyd yn 2020gan sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oedd cyflwr 52% o nodweddion ar y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn hysbys. Roedd cyflwr 20% ohonynt yn ffafriol, ac roedd cyflwr 28% ohonynt yn anffafriol. 

2.3. Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cynnwys 'dyletswydd bioamrywiaeth' gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau. Y bwriad yw y dylai awdurdodau cyhoeddus ymgorffori’r broses o ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau yn eu gweithgareddau bob dydd. Er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd, rhaid i awdurdodau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun sy'n nodi'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau, a rhaid iddynt adrodd ar eu gwaith bob tair blynedd.

2.4. Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981yn cynnwys cyfreithiau cyffredinol i amddiffyn bywyd gwyllt, gan gynnwys gwahardd person (heb drwydded) rhag lladd neu gymryd aderyn gwyllt, neu ddinistrio ei wyau neu ei nyth, tra bo’r nyth hwnnw'n cael ei ddefnyddio neu'n cael ei adeiladu.

2.5. Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

Mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) ar ei daith drwy’r Senedd ar hyn o bryd. Os caiff ei basio, ei nod yw:

§    gosod egwyddorion amgylcheddolar y llyfr statud i fod yn sail i bob penderfyniad polisi yn y dyfodol;

§    sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol (Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru – SLlAC), a fyddai’n dwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif mewn perthynas â chyfraith amgylcheddol; a

§    chyflwyno fframwaith statudol ar gyfer targedau bioamrywiaeth sy’n rhwymo mewn cyfraith.

Nid yw'r Bil yn creu dyletswyddau newydd penodol ar gyfer Gwarchodfeydd Natur Lleol. Nod ei ddarpariaethau yw atgyfnerthu'r gofyniad i gyrff cyhoeddus ystyried bioamrywiaeth wrth wneud penderfyniadau a gweithio tuag at dargedau bioamrywiaeth – er enghraifft, fel rhan o'u dyletswydd bioamrywiaeth o dan adran 6 (uchod).

Byddai SLlAC yn darparu llwybr ar gyfer gwneud cwynion a chymryd camau gorfodi mewn achosion lle nad yw awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol. O ran y ddeiseb hon, gallai unrhyw un sy'n pryderu nad yw awdurdod cyhoeddus yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau amgylcheddol cyfreithiol gyflwyno sylwadau i SLlAC, a fyddai’n meddu ar y pwerau i sicrhau cydymffurfiaeth (er enghraifft, drwy ddefnyddio hysbysiadau cydymffurfio, gyda'r posibilrwydd o uwchgyfeirio'r achos i'r Uchel Lys).

2.6. Cynllun Gweithredu Adfer Natur

Mae'r ddeiseb yn sôn am Gynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru (2021), sef strategaeth bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru.

Er bod y Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn cyfeirio at adfer a chynnal y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig, mae hyn yng nghyd-destun safleoedd sydd wedi’u dynodi’n hanesyddol o dan rwydwaith Natura 2000 yr UE – rhwydwaith nad yw'n cynnwys Gwarchodfeydd Natur Lleol. Fodd bynnag, nod y Cynllun Gweithredu Adfer Natur yw adfer a chreu cynefinoedd y tu allan i safleoedd gwarchodedig “er mwyn creu rhwydweithiau natur a mosaigau”.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw bod y cynllun bioamrywiaeth o dan adran 6, wedi'i ategu gan Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), yn disodli'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur presennol. Fodd bynnag, fel y soniwyd eisoes, nid yw'r Bil yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer Gwarchodfeydd Natur Lleol.

2.7. Archwiliad trylwyr ynghylch bioamrywiaeth

Roedd ymarfer Plymio Dwfn Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru yn 2022 (sy'n gwneud argymhellion parthed cyrraedd y targed byd-eang o ran diogelu 30% o’r tir, y môr a dŵr croyw erbyn 2030, sef y nod '30 erbyn 30') yn cynnwys argymhelliad ynghylch Gwarchodfeydd Natur Lleol:

Canfod ffyrdd o fanteisio i’r eithaf ar rôl Gwarchodfeydd Natur Lleol a chynefinoedd eraill nad ydynt o dan ddynodiad statudol, fel Safleoedd o Bwys er Cadwraeth Natur, i gyflawni ar gyfer y 30 erbyn 30. 

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) ymchwiliad i fioamrywiaeth, gan gyflwyno adroddiad ym mis Gorffennaf 2024 ar atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030. Mae’r adroddiad yn archwilio’r gwaith o reoli safleoedd gwarchodedig yng nghyd-destun y targed byd-eang '30 erbyn 30', ond nid yw’n ymdrin yn benodol â statws Gwarchodfeydd Natur Lleol.

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yw’r prif bwyllgor sydd wedi craffu ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Nid yw ei adroddiad Cyfnod 1 na’r gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2 yn ystyried statws Gwarchodfeydd Natur Lleol yn benodol. Yn hytrach, maent yn ystyried darpariaethau sy’n ymwneud ag egwyddorion amgylcheddol, y corff llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.